A new online Victim Journey Portal
|
||
|
|
||
|
||
|
Porth Taith Dioddefwr ar-lein newydd |
||
|
Rydym wedi lansio Porth Taith Dioddefwyr ar-lein newydd i helpu dioddefwyr trosedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hachos ac aros mewn cysylltiad â swyddogion. Gall pobl sy'n cael eu gwahodd i ddefnyddio'r porth, ar ôl iddynt roi gwybod am drosedd i ni, gael mynediad diogel at ddiweddariadau am eu hachos, gweld beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn a deall beth sy'n digwydd nesaf. 🔎 Gweld diweddariadau achos yn ddiogel 1️ Derbyn hysbysiadau wrth i'ch achos fynd rhagddo ℹ️ Mynediad at wybodaeth ar amser sy'n addas i chi 👮♀️ Cadwch mewn cysylltiad â'ch swyddog ymchwilio Mae'r porth yno i'w gwneud hi'n haws i ddioddefwyr gael mynediad at wybodaeth am eu hachos, ond nid yw'n disodli cyswllt personol â swyddogion. Gall dioddefwyr barhau i siarad â ni'n uniongyrchol fel y maent wedi gwneud erioed, ac mae defnyddio'r porth yn gwbl ddewisol. Rydyn ni'n gwybod y gall bod yn ddioddefwr trosedd fod yn brofiad anodd a phryderus. Mae'r porth wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i bobl gael gwybodaeth am eu hachos a chael gwybod wrth iddo fynd rhagddo.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







